Skip to main content

Friends of the Glynn Vivian Artist Talk: Hetain Patel
Thursday 6 March 6-7pm
Join us for this free talk with Hetain Patel!

Patel has devised the nationwide project Come As You Really Are with Artangel, which is made up of 13 regional presentations across England, Northern Ireland, Scotland, and Wales from Summer 2024 – 2026.

The exhibition Come As You Really Are ꞁ Swansea Open 2025 at Glynn Vivian will run from 15 February – 27 April, showcasing unique hand-crafted objects, with contributions from hobbyists including collectors, costume and cosplay makers, painters, crocheters and knitters, model makers, robotics engineers, origami specialists and many more.

A new film by Patel, co-commissioned by Artangel and partners, which explores the outstanding creativity and passion that people put into their hobbies will be on display in Room 3, alongside a selection of objects featured within it.

Hetain Patel is a London based artist and filmmaker. His films, sculptures, live performances, paintings and photographs have been shown worldwide in galleries, theatres and on iconic public screens, including Piccadilly Circus, London, and Times Square, New York. His works have been presented at the Venice Biennale, Ullens Centre for Contemporary Art, Beijing and Tate Modern, London, to Sadler’s Wells.

Patel’s work exploring identity and freedom, using choreography, text and popular culture appears in multiple formats and media, intended to reach the widest possible audience. His video and performance work online have been watched over 50 million times, which includes his TED talk of 2013 titled, ‘Who Am I? Think Again’.

Image: Hetain Patel with exhibiting hobbyists at Come As You Really Are, Croydon, 2024. Image: Lia Toby/PA

Sgwrs Cyfeillion Oriel Glynn Vivian ag artist: Hetain Patel
Nos Iau 6 Mawrth 6 – 7pm
Ymunwch â ni am y sgwrs am ddim hon â Hetain Patel!

Mae Patel wedi creu’r prosiect cenedlaethol Come As You Really Are gydag Artangel, sy’n cynnwys 13 o gyflwyniadau rhanbarthol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban rhwng haf 2024 a 2026.

Bydd arddangosfa Come As You Really Are ꞁ Abertawe Agored 2025 yn Oriel Gelf Glynn Vivian rhwng 15 Chwefror a 27 Ebrill, gan arddangos gwrthrychau unigryw o waith llaw, gyda chyfraniadau’n cael eu gwahodd gan hobïwyr gan gynnwys casglwyr, gwneuthurwyr gwisgoedd a gwisg-chwarae, peintwyr, croswyr a gwewyr, gwneuthurwyr modelau, peirianwyr roboteg, arbenigwyr origami a llawer mwy.

Bydd ffilm newydd gan Patel sydd wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Artangel a phartneriaid sy’n archwilio creadigrwydd a brwdfrydedd pobl dros eu hobïau yn cael ei dangos yn Ystafell 3, ochr yn ochr â detholiad o wrthrychau sy’n ymddangos ynddi.

Mae Hetain Patel yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau o Lundain. Mae ei ffilmiau, ei gerfluniau, ei berfformiadau byw, ei baentiadau a’i ffotograffau wedi cael eu dangos ledled y byd mewn orielau, theatrau ac ar sgriniau cyhoeddus eiconig, gan gynnwys Piccadilly Circus, Llundain a Times Square, Efrog Newydd. Mae ei waith wedi cael ei gyflwyno yn Biennale Fenis, Canolfan Celf Gyfoes Ullens, Beijing a Tate Modern, Llundain i Sadler’s Wells.

Mae gwaith Patel sy’n archwilio hunaniaeth a rhyddid, gan ddefnyddio coreograffi, testun a diwylliant poblogaidd yn ymddangos mewn amryfal fformatau a chyfryngau, gyda’r bwriad o gyrraedd y gynulleidfa ehangaf posib. Mae ei waith fideo a pherfformiad ar-lein wedi cael eu gwylio dros 50 miliwn o weithiau, sy’n cynnwys ei sgwrs TED yn 2013 o’r enw, ‘Who Am I? Think Again’.